Yn sefyll gyda’n gilydd dros ein cymunedau gwledig | Cyfrannwch at y gronfa gyfreithiol.
Cyfiawnder i Gymru
Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth â rhwydwaith gwych o bobl o ledled Cymru, y DU a’r Byd.

RHWYDWAITH JFW
Mae yna rhywbeth i bawb. Rydyn ni eisiau cwrdd a chysylltu â phobl sy’n rhan o fywyd gwledig. Dewch i wrando ar eu storïau, neu i gynnig cymorth pan allwch.
Rydym yn cynnal digwyddiadau a chyfarfodydd sydd o bwys: cyfarfodydd lleol, seminarau, digwyddiadau cymdeithasol, clinigau ysgrifennu llythyrau, cyfarfodydd cyfreithiol agored, a digwyddiadau diwylliannol sy’n dod â phobl ynghyd.
Mae cysylltiad a thegwch yn hollbwysig. Ffordd sefydlog i bobl gwledig aros yn wybodus, cael cymorth, a chael eu clywed. Byddwch yn cysylltu â phobl sydd wir yn poeni am y lleoedd maent yn byw.
Nid oes rhaid i chi wynebu hyn ar eich pen eich hun. Gall ein rhwydwaith eich cysylltu â chymorth proffesiynol addas, cyngor cyfreithiol, partneriaid dibynadwy a mwy.
Cydlynwyr a Cysylltiadau
Justice for Wales is backed by a growing network of people who recognise that the balance has tipped and that and respect must be restored and the law upheld. Their words explain why this case matters; if you agree, please help us take it forward.

Ffermwr o Sir Gaerfyrddin yw Dyfan, ac mae’n siarad dros y cymunedau sy’n wynebu effaith prosiectau ynni ar raddfa fawr. Cyd-lywydd Grŵp Llywio Pylonnau Llanymddyfri.

Mae Eirian yn rhedeg GT & E Feeds, busnes teuluol ger Llanymddyfri. Mae ganddo wreiddiau dwfn mewn ffermio a’r ardal wledig, ac mae’n cyfuno gwybodaeth ymarferol am y tir gyda chymhelliant cryf o ran tegwch a chywirdeb.Cyd-lywydd Grŵp Llywio Pylonnau Llanymddyfri.

Mae Stella yn ffermio cig eidion a defaid yn Sir Faesyfed, lle mae hi hefyd yn rhedeg busnes twristiaeth. Mae’n byw ar y fferm deuluol gyda’i mab ac mae’n angerddol am warchod Cymru wledig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae Anthony yn ffermio defaid a buchod yn y mynyddoedd ger Llanfair-ym-Muallt. Mae’n siarad yn uniongyrchol ac yn gymunedol, ymunodd â Justice for Wales ar ôl i asiantau GreenGEN ymddangos heb rybudd ar ei dir.

Mae Jennie yn ffermio ochr yn ochr â’i rhieni ac yn gobeithio cario’r traddodiad ymlaen am flynyddoedd i ddod. Mae’n credu y dylai newidiadau fod yn deg ac yn barchus, fel y gall teuluoedd gwledig barhau i fyw a gweithio ar y tir yn hytrach ‘na chael eu gwthio i’r ymylon gan fuddiannau corfforaethol.

Mae Lowri yn filfeddyg ac yn byw ar fferm fach, a adferodd hi a’i gŵr fu farw â chariad dros ddwy ddegawd. Ganed ym mhentref Prengwyn, ger Llandysul. Y mae hi’n credu’n gryf y bydd cymunedau ddim ond yn ffynnu trwy ofal a rheolaeth dda o’r tir a’i hadnoddau.

Mae Lowri yn filfeddyg ac yn byw ar fferm fach, a adferodd hi a’i gŵr fu farw â chariad dros ddwy ddegawd. Ganed ym mhentref Prengwyn, ger Llandysul. Y mae hi’n credu’n gryf y bydd cymunedau ddim ond yn ffynnu trwy ofal a rheolaeth dda o’r tir a’i hadnoddau.

Mae Mervyn yn ffermwr o Sir Faesyfed trwy gydol ei fywyd gyda gwreiddiau dwfn yn Nyffryn Edw. Mae’n adnabyddus am ei agwedd pwyllog a sefydlog a’i ddigwyddiadau cymunedol cyfeillgar. Mae’n chwarae rhan weithgar yn ymdrechion lleol i warchod ffermydd teuluol a dathlu bywyd gwledig.

Mae Richard yn drydydd cenhedlaeth o’i deulu i ffermio yn Peniel ger Caerfyrddin. Ynghyd â’i wraig, phlant a wyron, maent yn ffermio fferm odro, da biff a defaid tra’n trin y tir a gwarchod natur. Mae wir yn warchodwr o gefngwlad, ac yn sefyll dros traddodiadau, diwylliant ac ysbryd cymunedol sydd yn sail i gefn gwlad Cymru.

Mae Ian yn ffermio defaid a da biff yn ardal Dyffryn Edw, ynghyd â’i wraig a thair o ferched. Mae’n cneifiwr BISCA ac wedi cynrychioli Cymru amryw o weithiau. Yn ogystal a fod yn angerddol am gneifio mae’n teimlo’n angerddol am y tir. Mae wedi amaethu ochr yn ochr a’i dad Adrian, ac yn trosglwyddo’r sgiliau ar gwerthoedd yma i’w ferched, sydd yn awyddus i barhau’r traddodiad o amaethu.
The people featured here are independent supporters of Justice for Wales. They share their personal views and experiences in solidarity with the work undertaken, but are not involved in its management or decision-making.

Cynrychiolydd Cyfreithiol
Mae Cyfiawnder i Gymru yn cael ei gynrychioli gan New South Law, cwmni sydd â phrofiad o gefnogi cymunedau a phobl unigol sy’n cymryd camau cyfreithiol i sicrhau triniaeth deg a chyfrifoldeb gan gyrff cyhoeddus a datblygwyr.
Os hoffech siarad â'n Tîm Cyfreithiol am y camau gweithredu yn erbyn GreenGen - yr effaith arnoch chi, neu ba gymorth sydd ar gael - cofiwch gysylltu.